Hamdden ym Merthyr Tudful
Yma yn LlesMerthyr rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cynnig ystod o wasanaethau a chyfleusterau ffitrwydd i bobl Merthyr Tudful, i helpu pawb i gynnal ffordd iach o fyw hapus.
Mae gennym ddwy Ganolfan Hamdden mewn lleoliad cyfleus yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae Canolfan Hamdden Merthyr Tudful ym Mhentref Hamdden Merthyr Tudful ychydig tu allan i ganol y dref ac ychydig oddi ar yr A470. Mae Canolfan Gymunedol Aberfan a Bro Merthyr ym mhen draw’r dyffryn yng nghanol Aberfan.
Nofio
Yn ogystal â bod yn hwyl, mae nofio yn ffordd wych o gadw’n heini sy’n addas i bob gallu.
Dosbarthiadau Ymarfer Corff
Rydym yn cynnig ystod eang o ddosbarthiadau ymarfer corff grŵp wythnosol, o ymarferion dwysedd isel i uchel.
Campfa
Mae ein hystafelloedd ffitrwydd a’n hystafelloedd pwysau rhydd yn cynnig ystod eang o hyfforddiant cardio, ymwrthedd a swyddogaethol.
Cyfleusterau
Dosbarthiadau Ymarfer Corff
Rydym yn cynnig ystod eang o ddosbarthiadau ymarfer corff grŵp wythnosol, o ymarferion dwysedd isel i uchel.
Mae dosbarthiadau yng Nghanolfannau Merthyr ac Aberfan.
Efo aelodaeth fisol mae dosbarthiadau ffitrwydd a redir gan y Canolfan AM DDIM. a £4.70 y dosbarth ar gyfer talu-wrth-fynd.
Gellir archebu dosbarthiadau 7 diwrnod ymlaen llaw naill ai drwy ffonio, ar-lein neu drwy ein hap (iScuba).
Mae lleoedd yn gyfyngedig felly gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu ymhell ymlaen llaw.
Rydym yn argymell eich bod yn dod â digon o ddŵr i’ch hydradu yn ystod y dosbarthiadau
Campfeydd
Mae ein hystafelloedd ffitrwydd a’n hystafelloedd pwysau rhydd yn cynnig ystod eang o hyfforddiant cardio, ymwrthedd a swyddogaethol. Mae gennym ddwy gampfa a dwy ystafell pwysau rhydd yng Nghanolfan Hamdden Merthyr a Chanolfan Gymunedol Aberfan.
Mae ein hystafelloedd ffitrwydd yn cynnwys offer da, modern, aerdymheru ac amgylchedd hawdd i’w ddefnyddio – y lleoedd gorau i ddechrau eich trefn ffitrwydd!
Mae ein hystafelloedd pwysau rhydd i ffwrdd o’r prif ystafelloedd ffitrwydd mewn amgylchedd agored, wedi’i oleuo’n dda, sy’n cynnig ystod wych o offer ar gyfer rhaglen hyfforddi pwysau trylwyr.
Mae ein staff cyfeillgar ar y safle ac yn gwbl gymwys i gynnig cyflwyniad i chi i ddangos i chi sut i ddefnyddio’r offer yn ddiogel, yn ogystal â chynnig cyngor ar sut i gyflawni’r canlyniadau rydych chi’n anelu atynt!
Canolfan Hamdden Merthyr Tudful
Mae Canolfan Hamdden Merthyr Tudful mewn lleoliad cyfleus ym Mhentref Hamdden Merthyr Tudful, dim ond taith gerdded fer o ganol y dref.
Amseroedd Agor:
Day | Times |
---|---|
Monday | Dydd Llun | 6.15am - 9pm |
Tuesday | Dydd Mawrth | 6.15am - 9pm |
Wednesday | Dydd Mercher | 6.15am - 9pm |
Thursday | Dydd Iau | 6.15am - 9pm |
Friday | Dydd Gwener | 6.15am - 9pm |
Saturday | Dydd Sadwrn | 8.15am - 4pm |
Sunday | Dydd Sul | 8.15am - 4pm |
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad:
Canolfan Hamdden Merthyr Tudful
Pentref Hamdden Merthyr Tudful
Merthyr Tudful
CF48 1UT
Ffôn: (01685) 727476
Canolfan Cymunedol Aberfan
Mae Canolfan Gymunedol Aberfan wedi’i lleoli yn rhan isaf y Cwm.
Oriau Agor:
Day | Times |
---|---|
Monday | Dydd Llun | 6.15am - 9pm |
Tuesday | Dydd Mawrth | 8.15am - 9pm |
Wednesday | Dydd Mercher | 6.15am - 9pm |
Thursday | Dydd Iau | 8.15am- 9pm |
Friday | Dydd Gwener | 6.15am - 9pm |
Saturday | Dydd Sadwrn | 8.15am - 3.30pm |
Sunday | Dydd Sul | 8.15am - 3.30pm |
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad:
Canolfan Cymunedol Aberfan
Pantglas Road
Aberfan
Merthyr Tudful
CF48 4QE
Ffôn: (01685) 727 362
Dod o Hyd i Ganolfan yn Agos Atoch Chi