Dod yn Aelod
Aelodaeth Ffitrwydd Hamdden
Nid oes unrhyw ffioedd ymuno na thaliadau cudd i boeni yn eu cylch gydag Aelodaeth Ffitrwydd Lles; cwblhewch y ffurflen gais, ewch i’ch canolfan leol gyda’r taliad misol a derbyniwch eich cerdyn – mae mor syml â hynny!
Bydd angen Sesiwn Sefydlu Campfa arnoch cyn defnyddio’r offer, ond mae hynny hefyd wedi’i gynnwys yn y pris. Yna gall ein Hyfforddwyr proffesiynol, cyfeillgar ddylunio Rhaglen Ffitrwydd wedi’i theilwra a’i hadolygu bob 6 wythnos i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gorau o’ch aelodaeth – gofynnwch amdani!
Manteision Aelodaeth
Yma yn LlesMerthyr rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl wneud y gorau o’u harian. Mae ein pecyn aelodaeth yn costio dim ond £30 y mis!
Yn Rhan o’r Aelodaeth:
- Dim ffioedd ymuno
- Sesiwn Sefydlu Campfa am ddim
- Rhaglen ffitrwydd wedi’i theilwra i chi
- Mynediad diderfyn i ystafell ffitrwydd a phwysau yng Nghanolfan Gymunedol Aberfan a Chanolfan Hamdden Merthyr Tudful
- Mynediad diderfyn i Bwll Canolfan Gymunedol Aberfan
- Mynediad diderfyn i ddosbarthiadau sy’n cael eu rhedeg gan y ganolfan