Online Inspiration

Cynnwys i’w Lawr Lwytho

Gweithgareddau addysgol llawn hwyl, podlediadau a llawer mwy!

Isod fe welwch ddolenni i ddogfennau PDF a mwy. Mae’r rhain yn adnoddau addysgol o bob math… Scroliwch I LAWR AM GYSYLLTIADAU.

Gellir lawr lwytho’r holl ffeiliau PDF, eu hargraffu a’u cwblhau gartref. Fel arall, os nad oes gennych argraffydd, gallwch agor a mwynhau nifer o’r gweithgareddau heb orfod argraffu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych drwyddynt i gyd i weld beth sy’n gweddu orau i’ch anghenion a’ch amgylchiadau.

Bydd yr holl gyfarwyddiadau y dylech eu hangen y tu mewn i’r PDF ond os oes angen unrhyw help neu gymorth arnoch anfonwch e-bost i: christopher.parry@wellbeingmerthyr.co.uk

Creu Thawmatrope!

 

Wedi’i ddyfeisio yn yr un flwyddyn yr adeiladwyd Castell Cyfarthfa, 1825, nid yw’r tegan clasurol hwn byth yn heneiddio! Ceisiwch greu eich un chi trwy lawr lwytho’r templed.

*Nid oes angen argraffu, lawr lwythwch a dilynwch y canllawiau gyda neu heb argraffydd.

Mae dwy fersiwn. Mae gan bob un hefyd dempled gwag a chanllawiau ar greu un eich hun heb argraffydd.

Gallwch hyd yn oed grefftio gyda ni trwy wylio’r fideo, a lawr lwytho’r templedi PDF trwy glicio ar y botymau.

Templedi Cymreig

Aderyn mewn cawell
pysgod mewn powlen
coeden nadolig

Templedi Saesneg

bird in a cage
fish in a bowl
christmas tree

Crefft Ciwb Cyfarthfa

Creu rhai pobl gyfarwydd o orffennol Merthyr ar ffurf ciwb!

Crefftiwch â ni a chreu Cymeriadau Crefft Ciwb Cyfarthfa!

Creu cymeriadau crefft ciwb unigryw wedi’u hysbrydoli gan bobl o Ferthyr Fictoraidd.

Templedi

Templed Cymreig
Templed Saesneg

Cerflunio Scarab gyda Mr Southey

Mae fforiwr Eifftaidd o Ferthyr ei hun yn dweud popeth wrthych chi am yr Amwled Eifftaidd y daeth yn ôl i Ferthyr ym 1901 a bydd yn dangos i chi sut i wneud un eich hun!

Nid oes angen argraffu! lawr lwythwch yr adnodd a dilynwch y cyfarwyddiadau. Gallwch chi hefyd grefftio gyda ni!

Gallwch hyd yn oed grefftio gyda ni trwy wylio’r fideo, a lawr lwytho’r templedi PDF trwy glicio ar y botymau

Templedi

templed cymreig
templed saesneg

Creu Arfbais gyda Mr Crawshay

Darganfod mwy am y teulu Crawshay a chreu arfbais y teulu eich hun!

Gellir argraffu’r adnodd hwn neu gellir ei ddefnyddio heb argraffu.

Templedi

templed cymreig
templed saesneg

Crefft Gyda ni a chreu nod tudalen marmor!

Roedd y Fictoriaid wrth eu bodd yn rhoi effaith marmor i bethau; llyfrau, llyfrau lloffion, papur lapio a mwy.

Dilynwch ni a chreu effaith marmor a’r papur ac yna ei droi’n nod tudalen cornel.

*Bydd angen rhywfaint o inc marmor arnoch (gellir dod o hyd iddo ar safleoedd
crefftau fel Baker Ross neu Ebay yn weddol hawdd ac mae’n rhad iawn), hambwrdd i ddal dŵr, cerdyn, a dyna ni! Mwy o wybodaeth am hynny i gyd ar y fideo!

Gwnewch Eich Pecyn Faciwîs o’r Ail Ryfel Byd Eich Hun

Daeth miloedd o faciwîs i Ferthyr Tudful yn ystod yr Ail Ryfel Byd a dim ond ychydig o eiddo oedd ganddyn nhw i’w cludo i’w cartref newydd. Darganfyddwch fwy trwy wneud eich pecyn faciwîs bach eich hun allan o bapur.

Mae’n well defnyddio’r adnodd hwn wrth ei argraffu, ond gallwch chi, gyda chymorth oedolyn, gopïo siâp sylfaenol y cês a thynnu llun eich fersiynau eich hun o’r gwrthrychau a chreu rhai eich hun heb argraffu.

Lawr Lwythwch y Pecyn Isod

Pecyn Faciwîs

Gêm Cof Fictoraidd: Gêm Kim

Roedd y Fictoriaid yn wych am gael gêm barlwr da a dyma un o’r goreuon.

Mae yna hefyd dempled du o’r gêm os oeddech chi eisiau ychwanegu eich delweddau eich hun ato.

Gellir gwneud yr adnodd hwn yn uniongyrchol oddi ar y sgrin neu ei argraffu. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y PDF i ddechrau.

Templedi

fersiwn un
fersiwn dau
creu un eich hun

Cwpan Te a Soser Coalport Castell Cyfarthfa

Mae gan Gastell Cyfarthfa gasgliad anhygoel o gerameg. Gwnewch eich cwpan te a soser eich hun, sy’n cynnwys dyluniad Coalport o’r casgliad yng Nghastell Cyfarthfa.

Mae’n well defnyddio’r adnodd hwn wrth ei argraffu.

Lawr Lwythwch y Pecyn Isod

cwpan te a soser

Mathemateg yr Hen Aifft gyda Mr Southey

Bydd fforiwr Eifftaidd Merthyr ei hun yn rhoi gwers i chi ar sut mae’r Hen Eifftiaid yn gwneud mathemateg.

Gellir defnyddio’r adnodd hwn heb argraffu. Yn syml, defnyddiwch feiro a phapur i gopïo’r tasgau ac ychwanegu eich atebion.

Lawr Lwythwch y Pecyn Isod

Mathemateg yr Hen Aifft

Argraffu Mono y Mabinogi

Ym 1838, cyfieithodd y Fonesig Charlotte Guest y chwedlau gwerin Gymreig draddodiadol a elwir gennym ar y cyd yn ‘Y Mabinogi’ o’r Gymraeg i’r Saesneg, gan agor y straeon i gynulleidfa newydd sbon. Felly, roeddem yn meddwl y byddem yn creu printiau wedi’u hysbrydoli gan y straeon hynny.

Portreadau o’r Rhyfel Byd Cyntaf: Darlunio’r Gorffennol

Tri phortread o dri o bobl a gafodd effaith ar Ferthyr Tudful yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Darllenwch am orffennol pob un a dewch â’u portreadau yn ôl yn fyw gyda rhywfaint o liw.

Gellir argraffu’r adnoddau hyn neu eu golygu a’u lliwio’n ddigidol am yn ail. Neu gallwch fod yn ddewr a thynnu llun fersiwn eich hun a’i wneud yn lliwgar.

Lawr Lwythwch y Pecyn Isod

y protestiwr gwrthryfel
Y Casglwr Wyau
Y Milwr

Theatr Teganau Pasg

Prosiect Pasg gwych i’r holl deulu. Lawr lwythwch a chrëwch eich theatr deganau eich hun ynghyd â Chyw a Bwni!

Dim argraffydd?

Lawr lwythwch gyfarwyddiadau a greu eich templed eich hun ar gyfer y theatr isod.

Lawr Lwythwch y Pecyn Isod

Theatr teganau pasg

Cardiau Post Pasg Fictoraidd

Roedd y Fictoriaid wrth eu bodd â chardiau cyfarch, ond roedden nhw’n meddwl bod y Pasg yn amser rhy ddifrifol i anfon cardiau cyfarch…felly, roedden nhw’n anfon cardiau post yn lle!

Isod mae dau Gerdyn Post Pasg Fictoraidd gwreiddiol sydd angen rhywfaint o liw i’w gwneud yn fyw.

Gellir argraffu’r adnoddau hyn neu eu golygu a’u lliwio’n ddigidol. Neu gallwch fod yn ddewr a thynnu llun eich fersiwn eich hun a’i wneud yn lliwgar.

Lawr Lwythwch y Pecyn Isod

cyw a chwningen yn chwarae golff
cerdyn post pen wy Pasg

Podlediad Gorffennol Cudd Merthyr

Podlediad yn dod i chi i gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa sy’n ymroddedig i hanes llai adnabyddus cawr diwydiannol. Bydd pob pennod yn edrych ar hanes cudd Merthyr Tudful lle yn Ne Cymru a newidiodd y byd yn y 19eg ganrif. Roedd Merthyr yn gartref nid yn unig i weithfeydd haearn mwyaf y byd ond dyma hefyd y man lle mae’r dyn a laddodd Sherlock Holmes yn byw, lle bu grŵp o artistiaid yn helpu’r di-waith i adeiladu eu tai eu hunain, lle bu canwr yn delweddu’r llais dynol am y tro cyntaf mewn hanes, a llawer, llawer mwy. Os ydych chi’n caru podlediadau hanes a straeon unigryw yna dyma’r podlediad i chi.

Yn ogystal a bodledia hanes wythnosol, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein Sianel YouTube lle rydyn ni’n uwch-lwytho ffilmiau hanesyddol, tiwtoralau crefft a llawer o fideos diddorol eraill. 

Mae ein podlediad ar gael naill ai ar ei’n Sianel YouTube neu ar ein Soundcloud

bennod ddiweddaraf
Skip to content