Bwthyn Joseph Parry

Man geni un o gerddorion a chyfansoddwyr mwyaf adnabyddus Cymru

Mae Rhif 4 Chapel Row yn enghraifft wych o fwthyn gweithiwr haearn nodweddiadol o’r 19eg ganrif.

Adeiladwyd y bwthyn ym 1825 ar gyfer gweithwyr Gwaith Haearn Cyfarthfa, a dyma fan geni Joseph Parry, cyfansoddwr mwyaf adnabyddus Cymru, ym 1841. Mae ei gyfansoddiad ‘Myfanwy’ yn parhau’n ffefryn gyda chorau meibion ​​Cymru hyd heddiw.

Mae tu fewn y bwthyn wedi’i osod yn y 1840au, ac mae’n dangos amodau byw’r gweithwyr haearn pan oedd Parry’n fachgen ifanc. Mae’r orielau i fyny’r grisiau yn gartref i arddangosfa am fywyd a gwaith Joseph Parry.

Ymweliadau Addysgol

Mae ymweliad ysgol â bwthyn Joseph Parry yn cynnig cyfle unigryw i ddysgu am amodau byw Gweithwyr Haearn y 19eg Ganrif. Mae llawer o ysgolion yn dewis ymweld ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa a Bwthyn Joseph Parry yn yr un ymweliad, gan ei fod yn cynnig cyfle gwych i gymharu cartrefi Meistri Haearn a Gweithwyr Haearn.

Mae ymweliadau wedi’u hwyluso â Bwthyn Joseph Parry ar gael i grwpiau ysgol o bob oed.

Gellir darparu sgyrsiau hefyd i grwpiau cymunedol a grwpiau addysg bellach ac uwch. Oherwydd maint y bwthyn, gallwn ddarparu ar gyfer uchafswm o 30 o blant – neu 20 oedolyn – ar unrhyw un adeg.

Am ragor o wybodaeth, neu i archebu ymweliad, cysylltwch â Swyddog Addysg yr Amgueddfa ar (01685) 727371.

 

Oriel

Mynediad

Ym Mwthyn Joseph Parry ellir cyrraedd y llawr gwaelod trwy ramp. Oherwydd natur hanesyddol yr adeilad, gellir cael mynediad i’r llawr cyntaf gyda grisiau yn unig.

Parcio

Mae lle parcio am ddim i geir a bysus ym mwthyn Joseph Parry. Wrth fynd i mewn i Chapel Row, gellir dod o hyd i ddau le parcio mawr ar ochr chwith y ffordd.

Gwirfiddoli

Mae Bwthyn Joseph Parry yn cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr yn ystod misoedd yr haf. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr yn Bwthyn Joseph Parry, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Noddedig gan “Colin Laver Heating”

Diolch i “Colin Laver Heating” sydd wedi noddi Bwthyn Gweithiwr Haearn Joseph Parry yn hael gan ein galluogi i ail-lansio ar Mai 21ain, 2016.

Skip to content