Addysg Treftadaeth

Dysgu

Dysgwch, darganfyddwch a phrofwch Gyfarthfa gyda’n rhaglen addysg arobryn!

Mae casgliad Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa yn cynnwys dros 16000 o wrthrychau. Casglwyd y gwrthrychau hyn o bob rhan o’r byd, ac maent yn rhychwantu miloedd o flynyddoedd o hanes. Mae’r dreftadaeth ddiwylliannol hon yn rhoi cyfle enfawr i ni ymwneud ag ystod eang o bynciau a themâu. O Hanes a Chelf i fyd natur a thechnoleg, gallwn ddarparu ysgogiad cyffrous a deniadol i helpu dysgu eich disgyblion.

children dressed in old clothes beinf old days characters

Ymweld â Chyfarthfa

Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai wedi’u hwyluso yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, Bwthyn Joseph Parry ac ar draws amgylchedd hanesyddol Cyfarthfa ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion.

example of old steam machinery in the grounds of cafathra caslte

Cyfnod Sylfaen

Meistri Haearn a Gweithwyr Haearn: Bywyd mewn Tref Fictoraidd
Trevithick Tan Gamp
Amser maeth yn ôl…
Nadolig Fictoraidd
Darganfod Cyfarthfa

castle character talking to key stage 2 children on a visit to the castle

Cyfnod Allweddol 2

Ymweld â’r Fictoriaid: Bywyd mewn Tref Haearn
Mae Pob Llun yn Dweud Stori
Aifftomania!
Curaduron Cyfarthfa
Cipio’r Crawshays
Nadolig Fictoraidd
Darganfod Cyfarthfa

castle guide talking to key stage 3 and 4 chikldren visiting the castle and musem

Cyfnod Allweddol 3 a 4

1831
Tsieina: Ymerodraeth ar y Taf
Sgiliau Amgueddfa
Darganfod Cyfarthfa

wellbeing merthyyr outreach worker visiting local library talking to children

Allgymorth

Gweithdai wedi’u hwyluso gan Swyddog Addysg a Dehongli’r Amgueddfa yn cael eu cynnal yn eich ysgol.
Merthyr Tudful Fictoraidd
Cloddio am lo ym Merthyr Tudful
Curaduron Cyfarthfa
Y Rhufeiniaid a’r Silwriaid
Y Rhyfel Byd Cyntaf

man teaching digital skills at local library

Dysgu Digidol

Gweithdy byw trwy MS Teams. Gall sesiynau gynnwys; cyflwyniadau testun, cyflwyniadau arteffactau, a chyfleoedd i ddisgyblion siarad ag un o’n harbenigwyr. Gellir teilwra’r gweithdy hwn i amrywiaeth eang o themâu a phynciau i gyd-fynd â’ch pwnc.

example of artifacts box at local library

Blwch Benthyciad Arteffact

Benthyg un o’n blychau benthyca arteffactau i’w defnyddio yn ystod eich gwersi. Dewiswch amrywiaeth o themâu, gan gynnwys; Y Fictoriaid, y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd, Glofa Cymru, ‘Oriel Gelf mewn Bocs’, Teganau a Gemau a’r Rhufeiniaid, neu siaradwch ag aelod o staff am roi blwch benthyg wedi’i deilwra at ei gilydd ar gyfer eich pwnc.

I gael rhagor o wybodaeth am ein gweithdai, archebu a chostau, cysylltwch â’n Swyddog Addysg a Dehongli, Charlotte Barry ar 01685 727371

Skip to content