Peiriandy Ynysfach
Agorwyd Gwaith Haearn Ynysfach ym 1801 o dan y Meistr Haearn Richard Crawshay ac roedd yn gweithredu fel rhan o Waith Haearn Cyfarthfa. Erbyn ei hanterth ym 1860, roedd gan Ynysfach bedair ffwrnais chwyth a oedd yn cael eu cyflenwi gan aer o ddwy injan chwythu fawr ar bob pen i’r safle. Mae’r peiriandy gogleddol wedi goroesi heddiw!
Adeiladwyd Peiriandy Ynysfach tua 1836. Adferwyd y peiriandy chwyth pedwar llawr o gerrig ym 1989 a’i ailagor fel canolfan dreftadaeth gan gynnig cyflwyniad i stori ddiwydiannol Merthyr Tudful.
Yn anffodus, ar hyn o bryd, mae Peiriandy Ynysfach ar gau i’r cyhoedd, ond cadwch lygad ar y dudalen hon am y datblygiadau diweddaraf.