- This event has passed.
Event Series:
Y fesen yn dderwen a ddaw: gweithdy ymarferol yn ymdrin â sut mae cyfansoddwyr yn mynd ati i ddatblygu eu cyfansoddiadau
Y fesen yn dderwen a ddaw: gweithdy ymarferol yn ymdrin â sut mae cyfansoddwyr yn mynd ati i ddatblygu eu cyfansoddiadau
25 June 2022 @ 1:30 pm - 3:30 pm
FreeYn y gweithdai hyn byddwn yn meddwl am syniad cerddorol syml, ac yna’n archwilio ffyrdd gallwn ni ddatblygu’r deunydd hwn yn ddarn cyflawn o gerddoriaeth. Gan y bydd bob gweithdy’n cychwyn â ‘hadyn’ cerddorol gwahanol, byddwn yn creu gwahanol gerddoriaeth a gwahanol drafodaethau bob tro, felly cewch ymuno â hynny o’r sesiynau ag y dymunwch.
Byddwn hefyd yn edrych ar y ffordd mae syniadau cerddorol yn cael eu trawsnewid gan wahanol offerynnau, y ffordd cânt eu chwarae, a’r ffyrdd maent yn cynhyrchu sŵn. Defnyddir technoleg ddigidol, ynghyd ag unrhyw offerynnau a ddarperir gan gyfranogwyr, i ddod â’r syniadau cerddorol a ddatblygir drwy’r gweithdy yn fyw.
Nid oes angen profiad nac offerynnau cerddorol, ond os ydych chi yn chwarae offeryn, dewch ag e gyda chi!
Mae’r gweithdai yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth ac ysgrifennu creadigol, creadigedd, y celfyddydau, neu’r diwydiannau creadigol, naill ai fel hobi neu yrfa yn y dyfodol.
Archebwch le ar gymaint o’r sesiynau isod ag y dymunwch ac edrychwn ymlaen yn fawr at eich gweld!
I archebu eich lle ar y gweithdai anfonwch e-bost atom drwy partneriaethau-cymru@open.ac.uk neu ffoniwch Stacey ar 029 21 674585. Gallwch ddod ar y diwrnod heb archebu lle os yw capasiti yn caniatáu.