What’s On | Be ‘Sy ‘Mlaen

View our What’s On brochure here / Gweld ei’n Be’ ‘Sy ‘Mlaen yma!

Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Comunity Tourism Hack | Hac Twristiaeth Gymunedol

19 September 2023 @ 10:00 am - 3:30 pm

Free
How can communities be better involved in generating tourism for the Valleys?
Would you like to shape and influence the future of tourism in your community, sharing ideas to welcome and retain visitors with funding opportunities to take these ideas forward?
Working in small teams, collectively explore how you can do this, alongside other members of your community and further afield, through a unique event.
Fresh ideas developed can then be taken forward into an application for community grants. Funding of up to £1,000 per community is available. More detail will be available at the event(s).
Key outcomes: Come along and…
  • Create a vision: Share your dreams for the future of tourism in your community
    Generate ideas: Turn your vision into innovative fresh ideas
    Connect: Meet other communities across South Wales
    Learn: Enhance your understanding with community toolkits and resources
    Meet funders: Explore funding opportunities
    Leadership: Hear about the new Social Leaders Cymru project

When: Tuesday, 19th September 2023 – 10am-3:30pm

Where: Redhouse, Merthyr Tydfil, High Street, Merthyr Tydfil, CF47 8AE

Who is it for:
Everyone! This Hack is for organisations and individuals interested in bringing footfall into their communities and developing fresh ideas with a shared vision of what your area has to offer – no matter your experience with tourism.
You could have one or more of the below:
  • Community connections: Participating individuals should feel excited for their community, ready to collaborate and build on connections with an open mind to being part of ‘big vision’.Diverse perspectives: We encourage a wide mix of individuals to participate to ensure a wide community voice is heard and create groundswell to make a change
    Varied experience: Participants don’t need to have an existing tourism focus or have previous experience or qualifications to participate
    Collective drive: Everyone has a voice in developing the place plan which will put your area on the map.
    Register free now!
*Spaces are limited so please attend if registered. The event will be catered and orders will be placed on final bookings.
Parking: Spaces are available at £3.50 for the day, off Castle Street. Please get in touch if you require any further information.
All sessions, including the leadership development programme, are free to attend, through funding provided by the National Lottery Community Fund. The project is led and managed by Social Enterprise Academy Scotland and Cwmpas in Wales. The project has been made possible through the players of the National Lottery and funding by the National Lottery Community Fund.
Privacy statement
Your personal information will only be used to in relation to the event.
Any information that you share with us will be stored securely in line with the Cwmpas GDPR policy. (https://cwmpas.coop/privacy-policy/)
You have the right to withdraw your consent for us to use your data at any time and ask us to delete your data. If you have any questions, please contact: commercialteam@cwmpas.coop
—————-
Sut gall cymunedau ymwneud yn well â chynhyrchu twristiaeth ar gyfer y Cymoedd?
A hoffech chi ffurfio a dylanwadu ar ddyfodol twristiaeth yn eich cymuned, gan rannu syniadau i groesawu a chadw ymwelwyr gyda chyfleoedd cyllido i ddatblygu’r syniadau hyn?
Gan weithio mewn timau bach, gallwch archwilio sut i wneud hyn gyda’ch gilydd, ochr yn ochr ag aelodau o’ch cymuned ac ymhellach i ffwrdd, trwy ddigwyddiad unigryw.
Yna, gall syniadau gael eu datblygu’n gais ar gyfer grantiau cymunedol. Mae cyllid o hyd at £1,000 ar gael fesul cymuned. Bydd rhagor o fanylion ar gael yn y digwyddiad(au).
Canlyniadau allweddol: Dewch i…
  • Greu gweledigaeth: Rhannwch eich breuddwydion ar gyfer dyfodol twristiaeth yn eich cymuned
    Cynhyrchu syniadau: Trowch eich gweledigaeth yn syniadau newydd arloesol
    Cysylltu: Cyfle i gyfarfod â chymunedau eraill ledled De Cymru
    Dysgu: Cyfle i wella’ch dealltwriaeth gyda phecynnau cymorth ac adnoddau cymunedol
    Cyfarfod â chyllidwyr: Archwiliwch gyfleoedd cyllido
    Arweinyddiaeth: Clywch am brosiect newydd Arweinwyr Cymdeithasol Cymru
Pryd: Dydd Mawrth, 19 Medi, 10am-3.30pm (cyrraedd am 9:45am)
Ble: Redhouse, y Stryd Fawr, Merthyr Tudful CF47 8AE
Ar gyfer pwy:
Pawb! Mae’r Hac yma ar gyfer sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb mewn denu pobl i’w cymunedau a datblygu syniadau newydd gyda gweledigaeth a rennir o’r hyn sydd gan eich ardal i’w gynnig – ni waeth beth fo’ch profiad ym maes twristiaeth.
Fe allech fod ag un neu fwy o’r isod:
  • Cysylltiadau cymunedol: Dylai unigolion sy’n cymryd rhan deimlo’n gyffrous ynglŷn â’u cymuned, yn barod i gydweithio a datblygu cysylltiadau gyda meddwl agored i fod yn rhan o ‘weledigaeth fawr’
    Safbwyntiau amrywiol: Rydym yn annog cymysgedd eang o unigolion i gymryd rhan er mwyn sicrhau bod llais cymunedol eang yn cael ei glywed ac i greu ymchwydd o gefnogaeth i ysgogi newid
    Profiad amrywiol: Nid oes angen i’r cyfranogwyr fod â phwyslais presennol ar dwristiaeth na phrofiad blaenorol neu gymwysterau i gymryd rhan
    Cymhelliant cyfunol: Mae pawb yn cyfrannu at ddatblygu’r cynllun lle a fydd yn rhoi eich ardal ar y map
    Cofrestrwch am ddim nawr!
*Nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly gofynnir i chi fynychu os ydych wedi cofrestru. Darperir lluniaeth yn y digwyddiad a bydd modd archebu pan fyddwch yn neilltuo lle’n derfynol.
Parcio: Mae lleoedd ar gael am £3.50 ar gyfer y dydd, oddi ar Castle Street. Cysylltwch â ni os bydd arnoch angen mwy o wybodaeth.
Mae pob sesiwn, gan gynnwys y rhaglen datblygu arweinyddiaeth, yn rhad ac am ddim i’w mynychu, trwy gymorth cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Caiff y prosiect ei arwain a’i reoli gan Social Enterprise Academy Scotland a Cwmpas yng Nghymru.
Mae’r prosiect wedi bod yn bosibl drwy’r Loteri Genedlaethol a chyllid gan Gronfa Cymunedau’r Loteri Genedlaethol.
Datganiad preifatrwydd
Defnyddir eich gwybodaeth bersonol mewn perthynas â’r digwyddiad yn unig.
Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhannu â ni yn cael ei storio’n ddiogel yn unol â pholisi GDPR Cwmpas. (https://cy.cwmpas.coop/preifatrwydd/)
Mae gennych yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl i ni ddefnyddio eich data ar unrhyw adeg a gofyn i ni ddileu eich data. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: commercialteam@cwmpas
Skip to content