Cwrt Plymouth 

Yn ardal awyr agored ffurfiol ond bellach wedi’i gorchuddio â tho gwydr ysblennydd, mae Cwrt Plymouth yn ofod mawr, hyblyg a ddefnyddir ar gyfer priodasau, digwyddiadau, perfformiadau, arddangosfeydd a chynadleddau.

Trwy’r to gwydr fe welwch y tŵr cloc eiconig, sydd wedi iddi dywyllu wedi’i oleuo’n wych yn erbyn awyr y nos. Mae amrywiaeth o opsiynau goleuo ar gael, gan ddefnyddio’r goleuadau ystafell sefydlog a’r rig goleuo llwyfan, y gellir eu ffurfweddu i greu effeithiau pwrpasol. Mae gan Gwrt Plymouth gownter gweini i sicrhau bod digwyddiadau arlwyo yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithlon. Mae amrywiaeth o gyfluniadau seddi ar gael a bydd ein staff yn hapus i drafod yr opsiynau gyda chi i sicrhau bod yr ystafell wedi’i gosod yn y ffordd orau ar gyfer gofynion eich digwyddiad. Gallwn drefnu ardal llwyfan uwch os oes angen.

Cyfleusterau

  • Lle: 300 yn sefyll
  • Capacity: 150 arddull theatr
  • Capacity: 120 gwledda
  • Delfrydol ar gyfer Ffeiriau/Gweithdai Dan Do
  • Rigiau Goleuo, Sain a Chymorth Technegol Ar Gael
  • Cyfleusterau Cyflwyno a Chymorth Technegol Ar Gael
Skip to content